Rhestr Ddarllen
Yr Ymdrech Genedlaethol
To Dream of Freedom
Crynodeb o hanes cenedlaetholdeb Cymreig milwriaethus yn ystod y chwedegau a'r saithdegau, gan fanylu ar stori Mudiad Amddiffyn Cymru a Byddin Cymru Rydd.
Roy Clews
Hands off Wales
Hanes manylach ar genedlaetholdeb Cymreig milwriaethus rhwng y pumdegau a'r saithdegau, gyda dadansoddiad o sut y dylanwadodd milwriaeth ar wleidyddiaeth Plaid Cymru a gwleidyddiaeth etholiadol.
Dr. Wyn Thomas
Dr. Wyn Thomas
Biograffiad trefnwr Mudiad Amddiffyn Cymru, John Barnard Jenkins, sydd yn trafod bywyd, gwleidyddiaeth a gweithgarwch y dyn yn ystod ymgyrch fomio'r sefydliad mewn manylder.
John Jenkins
Tryweryn: A Nation Awakes
Hunangofiant sylfaenydd Mudiad Amddiffyn Cymru, Owain Williams, a oedd yn sôn am brofiadau uniongyrchol o rai o'r digwyddiadau cynharaf o weithredu fel ymateb i foddi Capel Celyn.
Owain Williams
Owain Glyndŵr
Hanes gwrthryfel uchelgeisiol Owain Glyndŵr yn erbyn meddiannu gan Loegr yng Cymru yn nechrau'r 15fed Ganrif, yn cynnwys digwyddiadau wnaeth arwain at yr wrthryfel a'i ganlyniadau.
Terry Breverton
The Celtic Revolution
Dadansoddiad o hanes a ddiwylliannau'r gwledydd Celtaidd, gydag archwiliad fewn i'w rhagolygon gwleidyddol yn y dyfodol.
Peter Berresford Ellis
Canlyn Arthur
Adroddiad uniongyrchol gan sylfaenydd Plaid Cymru, Saunders Lewis, o'r cymhellion ar gyfer llosgi ysgol fomio'r RAF ym Mhenyberth, sydd yn cael ei alw'n aml fel 'Tân yn Llŷn.
Saunders Lewis
Freedom Fighters
Hanes o gyfnod milwriaethus cenedlaetholdeb Cymreig, sy'n cychwyn yn nechrau'r chwedegau ac yn diweddu gydag ymgyrch llosgi Meibion Glyndŵr yn yr wythdegau a'r nawdegau.
John Humphries
Yr Iaith
Gaeilge: A Radical Revolution
Golwg ar berthynas gymhleth Iwerddon â'i hiaith frodorol, ag archwilio fewn i fethiannau ymdrechion adfywiad yr iaith yn y wlad. Gan dynnu ar hanes ieithoedd lleiafrifol dramor, mae Caoimhín De Barra yn sôn am bolisi radical i adfer yr iaith Wyddeleg.
Caoimhín De Barra
Tynged yr Iaith
Araith hanesyddol Saunders Lewis yn 1962 a ddarlledwyd ar draws y wlad, a arweiniodd at ymdrechion i amddiffyn y Gymraeg a chynyddu teimlad o falchder yn y Cymry.
Saunders Lewis
Trwy Ddulliau Chwyldro…?
Hanes y grŵp protest radical Cymraeg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Gan ddechrau gyda ffurfio'r mudiad yn dilyn araith Tynged yr Iaith Saunders Lewis yn 1962, mae'r llyfr yn manylu ar weithredoedd ac effaith y grŵp hyd at y nawdegau.
Dylan Phillips
The Welsh Language
Hanes anhygoel o fanwl am y Gymraeg sy'n archwilio tarddiad, demograffeg ac effaith ddiwylliannol yr iaith o'r chychwyn hyd heddiw.
Janet Davies
Hunan Benderfyniad a Democratiaeth Gyfranogol
The Next Revolution
Casgliad o waith gan sosialwe ac anarchwr rhyddfrydig Murray Bookchin, gan ganolbwyntio ar reidrwydd democratiaeth gyfranogol a sefydlu cynulliadau i'r bobl.
Murray Bookchin
Hanes dinasoedd fel cymunedau gwahanol sy'n seiliedig ar gyfranogiad a chydfuddianniaeth, nid fel canolfannau cyfalaf yn unig. Mae Bookchin yn cynnig 'bwrlwm democrataidd' fel arf i gymryd grym yn ôl o'r genedl-wladwriaeth a'i ddychwelyd i gymunedau.
Murray Bookchin
From Urbanization to Cities
Dadansoddiad manwl o'r problemau sy'n gwynebu cenedl-wladwriaethau canolog ac eiriolaeth rymus ar gyfer dychwelyd i bolion llai sy'n gweithio ar raddfa ddynol.
Leopold Kohr
The Breakdown of Nations
Small is Beautiful
Archwiliad beirniadol am y natur lle mae cyfalafiaeth yn gweithredu a'i dwf di-derfyn. Gan ehangu ar syniadau Leopold Kohr, mae E. F. Schumacher yn cynnig ailstrwythuro radical o'r economi o amgylch cymunedau ac nid corfforaethau.
E. F. Schumacher
Cyfalafiaeth â'r Argyfwng Hinsawdd
Marx in the Anthropocene
Archwiliad o feirniadaethau ecolegol Marx o gyfalafiaeth, yn ogystal â dadansoddiad o fethiannau ecolegol y mudiadau Marcsaidd ers ei farwolaeth. Mewn cwymp ecolegol parhaus, mae Saito yn cynnig trosglwyddiad tuag at 'gomiwnyddiaeth di-dwf'.
Kohei Saito
Capitalist Realism
Archwiliad caled o'r graddau mae cyfalafiaeth wedi ymwreiddio i fewn i blb agwedd mewn cymdeithas, wrth arwain at sefyllfa lle mae hi wedi dod yn haws i ddyfalu cwymp llwyr o gymdeithasau na diwedd ar gyfalafiaeth neu posibilrwydd o ddewis arall.
Mark Fisher
Anthropocene or Capitalocene?
Her i'r syniad sy'n fod yr argyfwng hinsawdd yn ganlyniad i 'Oes Dyn', ond yn hytrach, 'Oes y Brifddinas'. Mae'r llyfr, sy'n cynnwys casgliad o draethodau pryfoclyd, yn ceisio rhoi atebion ynglŷn â natur cyfalafiaeth a'i gysylltiad cynhenid â newid hinsawdd.
Jason W. Moore
Less is More
Galwad i weithredu am ailstrwythuro llwyr o'n diwylliant, ein heconomi a'n cymdeithas ehangach tuag at di-dwf. Mae Hickel yn awgrymu os ydym am achub y blaned rhag amharu ar gwymp ecolegol, fydd rhaid i ni weithredu'n gyflym i sicrhau diwedd ar y rheidrwydd twf.
Jason Hickel
Radicaliaeth Gwleidyddol ag Actifiaeth
Blueprint for Revolution
Hanes a thactegau'r sefydliad wrth-awdurdodol radicalaidd 'Optor!' a'i frwydr yn erbyn cyn-arlywydd awdurdodol Serbia, Slobodan Milošević. Mae'r llyfr hefyd yn tynnu ar enghreifftiau eraill o actifiaeth ddi-drais llwyddiannus ar draws y byd.
Srdja Popovic
Rules for Radicals
Canllaw ar gyfer radicaliaid gwleidyddol ifanc sy'n ceisio medru newid cymdeithasol-wleidyddol adeiladol a gafodd ei ysbrydoli gan brofiad helaeth Alinsky ei hun gyda sefydliad gwleidyddol yn y mudiad hawliau sifil yn yr UDA.
Saul D. Alinsky